Protest: Dau ddyn gerbron y llys
- Cyhoeddwyd
Bydd dau ddyn, sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â throseddau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus yn dilyn protest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, yn ymddangos gerbron y llys ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod protestwyr wedi mynd i fanc HSBC ar Stryd y Frenhines yn ystod y brotest gafodd ei threfnu gan grŵp Anarchaidd.
Mae disgwyl i'r ddau ddyn, 25 oed a 30 oed, ymddangos gerbron ynadon yn y ddinas.
Maen nhw'n wynebu cyhuddiadau o ymddwyn yn dreisgar, ac o ymosod ar blismon.