Hei Jude!

  • Cyhoeddwyd
Jude CisseFfynhonnell y llun, S4c

Tai moethus, ceir crand a gwyliau yn y gwestyau gorau. Oes, mae 'na lot o fanteision i fod yn briod gyda phêl-droediwr proffesiynol ar y lefel uchaf. Ond ydi bywyd yn fêl i gyd i'r gwragedd?

Cawn gipolwg ar fywyd un ohonyn nhw, Jude Cissé mewn cyfres newydd ar S4C, 'Y WAG o Fôn'.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Jude sut y newidiodd ei bywyd wedi iddi hi gwrdd a chyn ymosodwr Ffrainc a Lerpwl, Djibril Cissé

Sut wnes di gyfarfod Djibril a beth oedd dy waith di ar y pryd?

Ges i fy nghyflwyno iddo mewn bwyty ym Manceinion gan rywun oedd yn ffrind i'r ddau ohonon ni - roedd hyn cyn iddo ymuno efo Lerpwl.

Ro'n i'n rhedeg busnes ers naw mlynedd ac yn gweithio fel darlithydd yng Nghaer.

Beth oedd ymateb dy deulu a ffrindiau dy fod mewn perthynas gyda pherson mor adnabyddus?

Doedd yr ymateb ddim wir yn wahanol i unrhyw berson arall dwi wedi eu cyflwyno iddyn nhw.

Sut mae dy fywyd wedi newid ers i chi gwrdd?

Dwi ddim yn meddwl ei fod o wedi newid llawer, heblaw am dŷ mwy a char cyflymach - ond dwi'n gwneud mwy neu lai yr un pethau â chyn i mi ei gyfarfod.

Mae Djibril wedi symud sawl gwaith ers hynny ers iddo fo chware i Lerpwl. Pa mor anodd oedd hi i setlo mewn gwahanol lefydd, a beth oedd y peth anoddaf?

Mae o wedi chwarae efo 10 clwb mewn 10 mlynedd. Gan mai dim ond ar fenthyg oedd o i wyth o'r clybiau yna, doedd hi ddim yn deg i symud y plant am 10 mis yn tymor roedd Dijbril yn chwarae pêl-droed.

Yn lle hynny, ro'n i'n teithio nôl a 'mlaen bob wythnos ac os oedd o'n gallu, roedd o'n dod adre ar ei ddyddiau i ffwrdd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jude yn ddigon cartrefol er bod Djibril yn symud clybiau yn aml

Y rhan anodda' oedd pan wnaethon ni ail-leoli a symud y plant i ysgol arall.

Roedd rhaid i mi adael fy mab hynaf ar ôl, gan fod hyn yn gwneud ei arholiadau TGAU a doedd o ddim eisiau symud ysgol ar adeg mor bwysig, felly symudodd mam i fyny ac aros yn nghartref y teulu efo fo.

Ro'n i'n treulio wythnos gyda fo yna wythnos gyda Dijbril a'r bechgyn eraill am yn ail.

Roedden ni wastad yn gwybod ein bod ni eisiau ymddeol yn y DU, felly roedd cadw cartref y teulu yn hanfodol.

Beth oedd y peth gorau a'r gwaethaf am fod yn briod a phêl-droediwr enwog?

Mae'r bobl o'ch cwmpas chi yn newid, felly 'dach chi'n cael cynnig mwy o gyfleoedd i fynd i lefydd neu ddigwyddiadau ble dach chi'n cyfarfod pobl anhygoel.

Wyt ti fel person wedi newid ers i chi gwrdd?

Ddim o gwbl - os unrhyw beth, y bobl o nghwmpas i sydd wedi newid.

Dwi'n teimlo fod dim modd osgoi newid ac rydyn ni i gyd yn newid ar adegau gwahanol yn ein bywydau.

Pan dach chi yn eich 20au, rwyt ti'n gwneud ffrindiau newydd, yn eich tridegau rydach chi'n dysgu mwy amdanoch chi'ch hun ac rydach chi'n gosod sylfeini, a rŵan mod i yn fy 40au, rydw i'n edrych ymlaen i weld beth ddaw o'r bennod nesaf.

Wyt ti mewn cysylltiad gyda rhai o'r gwragedd eraill?

Ydw, dwi'n ffrindiau efo nifer o'r gwragedd eraill.

Ti'n fenyw busnes dy hun. Pa mor bwysig oedd cynnal gyrfa dy hun?

Dwi wedi rhedeg fy musnes fy hun ers mod i'n 22 oed ac wastad wedi mwynhau gweithio i fi fy hun, ac rydw i'n dda am annog fy hun.

Dwi hefyd yn berchen ar nifer o dai, felly mae hynny'n llawer o waith ar adegau.

Disgrifiad o’r llun,
Djibril yn dathlu sgorio gôl yn ystod ei gyfnod byr yn Llundain gyda Queen's Park Rangers

Oeddet ti'n teimlo o dan bwysau i edrych ar dy orau pan yng nghwmni'r gwragedd a chariadon y pêl-droedwyr eraill?

Nag oeddwn, â dweud y gwir - er mae'n siŵr fod yna fwy o bwysau i edrych yn dda pan 'dach chi'n ymwybodol fod y wasg yna, rhag ofn iddyn nhw wneud hwyl am dy ben di!

Mae'r wasg yn Lloegr yn tueddu i ganolbwyntio a phigo ar y pethau negyddol yn hytrach na phethau da.

Mae llawer o ferched ifanc yn anelu tuag at fywyd "WAG", beth fydde dy gyngor di i'r merched hynny?

Dydi bod yn wraig i bêl-droediwr ddim yn yrfa, oherwydd mae'r bywyd yna yn gallu dod i ben unrhyw bryd.

Mae hi felly yn bwysig dod o hyd i lwybr gyrfa 'dach chi'n garu gan eich bod chi'n treulio 80% o'ch bywyd yn gweithio.

Fydd dy swydd byth yn stopio eich caru chi, ond gallai'ch partner wneud...!

Y Wag o Fôn, S4C, 20:30, Nos Fercher 6 Mai