BBC Cymru Fyw

Cais cynllunio i adeiladu 400 o dai ar safle BBC Cymru

Published
image copyrightTaylor Wimpey
image captionMae'r safle wedi bod yn gartref i BBC Cymru ers 1966
Mae cais cynllunio i adeiladu 400 o gartrefi ar safle presenol BBC Cymru yng Nghaerdydd wedi ei wneud i gyngor y ddinas.
Mae adeiladwyr tai Taylor Wimpey eisiau troi'r safle yn Llandaf i dai sydd wedi eu hysbrydoli gan ddyluniad sgwariau Georgaidd Llundain.
Os caiff ganiatâd, byddai datblygiad Parc Llandaf yn cynnwys pob math o gartrefi o fflatiau un llofft i dai pum llofft.
Mae disgwyl i BBC Cymru symud i bencadlys newydd yng nghanol dinas Caerdydd yn 2018.
Mae'r cais yn cynnwys cynllun i adeiladu 20% o dai fforddiadwy ar y tir ar Ffordd Llantrisant.
Cafodd cynlluniau am lwybrau beicio a cherdded eu newid yn dilyn ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.
image copyrightRightacres Property
image captionMae BBC Cymru yn symud i ganol Caerdydd yn 2018

Straeon perthnasol

  • Cyngor o blaid cynllun pencadlys BBC Cymru