Efaciwîs yn dod yn ôl i'r gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Arddangosfa Efaciwîs Llandudoch

A hithau'n 70 mlynedd ers i'r Cynghreiriaid drechu lluoedd y Natsïaid yn Ewrop, mae dyrnaid o efaciwîs, ddaeth i bentref Llandudoch o dde-ddwyrain Lloegr i ddianc rhag bomiau'r Natsïaid, wedi dychwelyd i Sir Benfro.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ddaeth dros 60 o blant o ardal Hythe yng Nghaint i Landudoch.

Cafodd dros dair miliwn eu symud o ddinasoedd i ardaloedd cefn gwlad er mwyn dianc rhag ymosodiadau'r Luftwaffe.

Ar ôl dod yn ôl i'r gorllewin mae'r efaciwîs wedi cael llety gan bobol leol - fel y gwnaethon nhw pan oedden nhw'n blant.

Ymchwil

Mae hanes yr efaciwîs yn destun ymchwil, yn rhan o brosiect Hanes Llandudoch Blynyddoedd y Rhyfel sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Eisoes mae'r ymwelwyr wedi bod ar wibdaith i Gastell Cilgerran ac fe fyddan nhw'n mynd i dref Aberteifi cyn mwynhau derbyniad gan Gyngor Cymuned Llandudoch.

Fe fydd dawns arbennig fel rhai'r 1940au yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Llandudoch nos Wener i gloi wythnos o hel atgofion.