Criced: Ffrae yn corddi rhwng Morgannwg a Sir Derby

Graeme Welch Image copyright Getty Images
Image caption Graeme Welch yw rheolwr Sir Derby ers 2014

Ddydd Mercher yw diwrnod olaf y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Sir Derby yn Stadiwm Swalec.

Mae'r gêm yn debygol o orffen yn gyfartal wedi i Morgannwg benderfynu cau eu batiad cyntaf 103-4 brynhawn dydd Mawrth, sydd 102 o rediadau yn brin o gyfanswm Derby.

Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo Sir Derby, gan ei fod yn eu rhwystro nhw rhag cael y cyfle i ennill pwyntiau bonws ychwanegol trwy gipio mwy o wicedi.

Bydd yr ymwelwyr yn ystyried nawr a fyddan nhw'n gwneud cwyn swyddogol.

Roedd tua 40 munud o chwarae yn weddill ar ddiwedd y trydydd diwrnod.

Yn ôl rheolwr Sir Derby, Graeme Welch, roedd o'n "anhapus", ond mynnodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph, fod gan y tîm cartre' "yr hawl" i wneud yr hyn wnaethon nhw.

Yn y diwedd, roedd golau gwael a glaw wedi atal y chwaraewyr rhag parhau i chwarae.

Doedd dim chwarae fore Mercher oherwydd y glaw, ond ar ôl cynnal ymchwiliad o'r llain fe wnaethon ni ailddechrau'r chwarae yn y prynhawn.

Straeon perthnasol