Taro deuddeg ar ddiwedd tymor?
- Published
Mae'r tymor rygbi yn dirwyn i ben ond fel yr eglura Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, mae 'na ddal ambell i sgôr i'w setlo:
Diweddglo cyffrous
S'dim unrhyw amheuaeth bod cyflwyno gemau ail-gyfle a newid y rheolau ynglŷn ag ennill llefydd yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi ychwanegu at gyffro diwedd tymor yng Nghynghrair y Pro 12.
Yn aml yn y gorffennol byddai meddyliau nifer o'r timau eisoes yn troi tuag at wyliau haf neu ddechrau eto'r tymor nesa' ond mae pythefnos gyffrous a phwysig tu hwnt o flaen y mwyafrif llethol eleni.
Mae rhywbeth yn y fantol i ddeg o'r deuddeg - yr eithriadau yw'r Dreigiau a'r Gleision, ond fel mae'n digwydd mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae hefyd.
Byddai llawer yn meddwl efallai bod y Gweilch eisoes wedi gwneud y gwaith caled drwy sicrhau'i lle yn y pedwar ucha' ond mae'r ystadegau'n awgrymu'n wahanol.
Mantais fawr gêm gartre
Y peth mawr yw sicrhau lle yn y ddau ucha' a gêm gartre oherwydd yn y pum mlynedd mae'r gemau ail-gyfle wedi bodoli does DIM UN tîm oddi cartre erioed wedi ennill gêm yn y rownd gynderfynol. Ffaith anhygoel - ond dyna bwysigrwydd gêm gartre!
Dwywaith mae'r Gweilch wedi sicrhau gêm gynderfynol gartre - dwywaith maen nhw wedi mynd ymlaen i fod yn bencampwyr.
Fe ddaeth y ddwy fuddugoliaeth yn yr RDS yn Nulyn, lleoliad pedair o'r pum ffeinal fawr, ond am y tro cynta' erioed eleni bydd Leinster ddim yn rhan o'r ffeinal na'r gemau cynderfynol ar ôl methu gorffen yn y pedwar ucha'.
Mae hynny'n dipyn o sioc oherwydd nhw yw'r tîm mwya' llwyddiannus yn y Gynghrair - dyw Leinster ddim wedi gorffen yn is na thrydydd yn y 10 mlynedd dwetha'.
Ond er eu siom mae'n rhaid iddyn nhw dal i frwydro i sicrhau'u lle yn y chwech ucha' a lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesa'.
Dyna nod y Scarlets hefyd - rhywbeth sy'n bwysig tu hwnt i wŷr y Gorllewin oherwydd maen nhw wedi bod yn rhan o'r brif gystadleuaeth Ewropeaidd bob tymor hyd yn hyn.
Gan mai nhw sydd yn y chweched safle ar hyn o bryd mae'u tranc yn eu dwylo nhw'u hunain, ond fe all y Dreigiau wneud ffafr â nhw.
Mae Caeredin o fewn un pwynt i'r Scarlets a nhw sydd ar Rodney Parade nos Wener. Bydd y Scarlets ddim ar feddyliau'r Dreigiau ond fe fydd talu'r pwyth am y golled drom yn Murrayfield yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop dair wythnos nôl.
Digon o dân ar ôl gan y Dreigiau?
Mae gêm ola'r Dreigiau yn Munster a gallai gael effaith ar obeithion y Gweilch o sicrhau'r gêm gartre' hollbwysig 'na.
Fel y Dreigiau, mae gan y Gleision y gallu i ddylanwadu ar eraill. Er mwyn osgoi eu tymor gwaetha' erioed rhaid i'r Gleision ennill eu dwy gêm ola' a sicrhau o leia' un pwynt bonws.
Maen nhw ar Barc y Scarlets b'nawn Sul yn gobeithio gall 'derbi' Gymreig eu hysgogi mewn modd na fedrodd Dydd y Farn.
Yna bydd y Gleision yn gorffen adre i'r Zebre tra bydd y Scarlets yn Treviso, a gyda'r ddau dîm o'r Eidal ynghanol eu brwydr bersonol am le yng Nghwpan y Pencampwyr mae'r diddordeb am barhau tan y diwedd.
Cymhleth, cyffrous a neb yn gwybod sut mae pethau'n mynd i droi mas - diawch mae fel y 'lecsiwn heb y cw'mpo mas!