Cyhoeddi anrhydeddau'r Orsedd

  • Cyhoeddwyd
gorsedd 2015
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Endaf Emlyn, Alex Jones, Dennis Gethin a Sian James ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo

Mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau wedi cael eu cyhoeddi.

Yn eu plith mae'r cyflwynydd adnabyddus Alex Jones, llywydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin, y gantores werin Siân James a'r cerddor a chynhyrchydd Endaf Emlyn.

Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol er mwyn cydnabod unigolion ymhob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a'u cymunedau lleol.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr yn cael eu hurddo i'r Orsedd ar faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ar fore Gwener, 7 Awst eleni.

Mae'r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Y Wisg Las.

Y Wisg Werdd fydd yn cael ei chynnig i aelodau newydd ym maes y celfyddydau - felly hefyd y rhai sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.

Disgrifiad o’r llun,
Bu Hywel Wyn Edwards yn drefnydd yr Eisteddfod am flynyddoedd lawer

Ymhlith yr enwau adnabyddus eraill ar y rhestr eleni mae cyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards, sy'n cael ei anrhydeddu wedi iddo ymddeol ddwy flynedd yn ôl.

Yno hefyd mae Eiry Palfrey am ei chyfraniad ym myd canu gwerin, dawnsio gwerin a'r cyfryngau.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst eleni.