Cyfartal rhwng Morgannwg a Derby

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg v DerbyFfynhonnell y llun, PA

Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sir Derby wrth i law effeithio ar y gêm yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.

Nid oedd modd dechrau'r chwarae tan 13:25 ar y diwrnod olaf yn Stadiwm Swalec oherwydd glaw trwm.

Dechreuodd yr ymwelwyr eu hail batiad 102 o rediadau ar y blaen wedi i Forgannwg wneud penderfyniad dadleuol i gau eu batiad cyntaf ar y trydydd diwrnod o chwarae.

Collodd Derby ddwy wiced yn gynnar i gyrraedd 32-2, gyda Michael Hogan a Dean Cosker yn cymryd wicedi Chesney Hughes a Ben Slater.

Er hynny llwyddodd Wayne Madsen i sgorio 72 heb fod allan a Scott Elstone 103 heb golli ei wiced pan ddaeth y gêm i ben.