Dyn o Wynedd yn wynebu cyhuddiadau o dreisio plentyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed, oedd yn gweithio mewn pwll nofio yng Nghaernarfon, yn wynebu cyhuddiadau o herwgipio a threisio merch 10 oed yn America.
Dywedodd ditectifs fod Gareth Vincent Hall o Dalysarn ger Caernarfon wedi cwrdd â'r ferch ar y rhyngrwyd ddau fis yn ôl cyn hedfan i'r Unol Daleithiau ym mis Ebrill.
Erbyn hyn, mae yn y ddalfa yn Eugene, Oregon, ac mae'r heddlu'n honni i'r ymosodiad ddigwydd ym mis Ebrill.
Yn ôl yr awdurdodau, cafodd ei arestio ddydd Sadwrn, 2 Mai, ym maes awyr Chicago.
Mae'n wynebu cyhuddiad o herwgipio, treisio a dwy drosedd rhyw ddifrifol arall.
Atal o'i waith
Mae disgwyl iddo fod yn y llys ym Mehefin.
Yn y cyfamser, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau iddo gael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yn Hydref 2014 wrth iddyn nhw ymchwilio i droseddau ar-lein honedig.
Dywedodd Cyngor Gwynedd iddo gael ei atal o'i waith ym mis Hydref wedi i Heddlu Gogledd Cymru roi gwybod iddyn nhw am y troseddau honedig.
Dywedodd llefarydd ei fod wedi ei wahardd o'i waith yn yr hydref a bod swyddogion yn cynnal ymchwiliad.