Rhyddhau 600 o gimychiaid i'r gwyllt

cimychiaid Image copyright Nrw
Image caption Fe fydd 1,000 o gimychiaid ifanc yn cael eu rhyddhau y flwyddyn nesaf

Mae bron i 600 o gimychiaid afon ifanc wedi cael eu rhyddhau i afon ym Mhowys ar ôl i'r rhai oedd yno farw oherwydd llygredd yn 2012.

Fe gafodd rhan o afon Ennig yn Nhalgarth, ger Aberhonddu, ei effeithio wrth i blaladdwr gael ei arllwys i'r afon, gan ladd llawer o'r bywyd gwyllt.

Ond roedd marwolaethau cimychiaid yr afon yn "bryder penodol" gan fod y rhywogaeth eisoes dan fygythiad.

Fe gafodd y cimychiaid eu magu mewn deorfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Fe fydd 1,000 ychwanegol o gimychiaid ifanc yn cael eu rhyddhau y flwyddyn nesaf.

Hyd yma, mae mwy na 3,300 o gimychiaid yr afon wedi cael eu rhyddhau mewn gwahanol ardaloedd o afon Gwy, ac mae cynlluniau i ryddhau rhagor mewn ardaloedd eraill yng ngorllewin Cymru.