Taith feicio i gofio Isaac Nash, fu farw yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Roedd Isaac Nash, o ardal Huddersfield, ar wyliau gyda'i deulu pan aeth i drafferthion yn y môr
Mae disgwyl i hyd at 65 o feicwyr gymryd rhan mewn taith feicio er cof am fachgen ysgol 12 oed a foddodd oddi ar Ynys Môn.
Roedd Isaac Nash ar wyliau ar yr ynys gyda'i deulu pan gafodd ei ddal mewn cerrynt cryf yn y môr ger Aberffraw ar 29 Awst y llynedd.
Er bod tad Isaac, Adam, a'i daid Paul wedi llwyddo i achub ei frawd, Xander, ofer oedd eu hymdrechion i achub bywyd Isaac.
Er gwaethaf ymgais ddwys gan Gwylwyr y Glannau a Heddlu Gogledd Cymru, i chwilio am Isaac, ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff.
Fe fydd hyd y beicwyr yn teithio 140 milltir er cof am Isaac, a hynny o'i gartref yn Highburton, Gorllewin Swydd Efrog i Ynys Môn, dros y penwythnos.