Ecsploetio plant yn rhywiol: Rhyddhau pedwar ar fechnïaeth
- Published
Mae pedwar o ddynion gafodd eu harestio ddydd Mercher oherwydd ymchwiliad i ecsploetio plant yn rhywiol wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth
Cafodd gwarantau eu gweithredu mewn pedwar lleoliad ym Mryste ac un cyfeiriad yn ardal Casnewydd.
Digwyddodd y troseddau honedig yn ardal Bryste rhwng 2011 a 2012.
Mae'r troseddau yn ymwneud â thri o ddioddefwyr oedd rhwng 12 a 15 oed ar y pryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Avon a Somerset: "Dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r ymchwiliad alw'r heddlu ar 101."
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mai 2015