Carcharu am ddwyn pedwar blwch casglu arian elusennol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi'i garcharu am ddwyn pedwar blwch casglu arian elusennol o ganolfan gymunedol yn y gogledd.
Cafodd Paul Anthony Williams, 34 oed o Drefor, ei garcharu am 12 mis wedi iddo gyfaddef dwyn o ganolfan cymunedol Cefn Mawr ger Wrecsam, dwyn o gartref yn Wrecsam, trosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus ac yfed a gyrru.
Roedd y pedwar blwch casglu arian yn y ganolfan gymunedol yn perthyn i bedwar elusen wahanol.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Roedd hwn yn arian a roddwyd gan y cyhoedd i elusennau pwysig, gan gynnwys un yn gofalu am blant sy'n derfynol wael," meddai.
"Byddai wedi bod yn amlwg eu bod yn flychau elusen."
Digwyddodd y troseddau eraill, gan gynnwys byrgleriaeth tŷ, pan oedd ar fechnïaeth.
Achosodd ddifrod gwerth bron i £1,000 mewn un cartref.
Daeth yr heddlu o hyd iddo ar ôl canfod olion bysedd ar ffenestr.