Etholiad 2015 ar wefan Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Wedi i'r bleidlais gael ei chynnal ddydd Iau bydd gwasanaeth Cymru Fyw yn dod â'r diweddara' am Etholiad Cyffredinol 2015 i chi, a hynny o ongl gwbl Gymreig.
Bydd 'na lif byw arbennig yn cychwyn unwaith bydd y blychau pleidleisio wedi cau am 22:00 nos Iau, gyda'r holl ganlyniadau o Gymru fel maen nhw'n cyrraedd, yn ogystal â'r sïon, newyddion a'r dadansoddi.
Byddwn ni hefyd yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd ar y gwefannau cymdeithasol, yn crynhoi rhywfaint o'r drafodaeth ar safleoedd fel Twitter a Facebook, a gallwch weld y diweddaraf drwy ddilyn cyfrif Twitter @BBCCymruFyw.
Yn ogystal, bydd 'na we-lif o raglenni S4C a Radio Cymru fel bod modd i chi wylio a gwrando ar y cyfan yn fyw drwy ein gwefan ni.
Gallwch ddilyn holl ddatblygiadau'r etholiad mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru o 22:00 ymlaen. Bydd rhifyn estynedig o'r Post Cyntaf yn dechrau'n gynt na'r arfer bore Gwener, am 05:00.
Bydd rhaglen deledu Etholiad 2015 yn cychwyn ar S4C am 22:00.
Y cyflwynydd etholiadol profiadol Dewi Llwyd fydd yn arwain yr arlwy teledu a radio, yng nghwmni Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick a'r newyddiadurwr Catrin Haf Jones.
Fe fydd 'na ohebwyr ym mhob rhan o Gymru'n dod â'r diweddara' o'r cyfri' dros nos nos Iau.
Byddwn ni'n parhau i ddilyn y datblygiadau a'r trafod yn y dyddiau wedi'r etholiad, wrth i'r darlun gwleidyddol ddod yn gliriach.