Post mortem: Ataliad y galon

Danny Jones Image copyright SWpix.com
Image caption Roedd Danny Jones yn 29 oed

Fe wnaeth y chwaraewr rygbi Danny Jones farw o ataliad ar y galon yn sgil cyflwr ers ei eni, yn ôl canlyniadau post mortem.

Cafodd y chwaraewr 29 oed ei daro'n sâl yn ystod gêm Keighley Cougars yn erbyn London Skolars a bu farw yn yr ysbyty.

Dywedodd yr awdurdodau na chafodd y broblem ei darganfod er gwaetha sgan ECG yn 2014.

Mae prif weithredwr Keighley Gary Fawcett wedi dweud: "Tra bod y canlyniadau'n esbonio beth yn union ddigwyddodd, dyw hyn ddim yn gysur i'w deulu.

'Yn boenus'

"Mae ei farwolaeth gynamserol yn boenus i bawb.

"Y cyfan y gallwn ni ei wneud yw galaru a gwneud popeth posib i helpu ei deulu a dathlu ei fywyd."

Roedd Danny Jones wedi ennill 12 cap dros Gymru wedi'r ymddangosiad cyntaf yn 2010 yn erbyn Yr Eidal.

Roedd wedi sgorio dros 1000 o bwyntiau mewn 150 o gemau i Keighley.