Ceidwadwyr i ffurfio llywodraeth

David Cameron
Image caption Bydd Mr Cameron yn gallu aros yn Rhif 10 fel prif weinidog heb yr angen am glymblaid

Mae David Cameron wedi dychwelyd i Downing Street a'i blaid wedi sicrhau mwyafrif pendant yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywed y BBC eu bod yn rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn ennill cyfanswm o 331 o seddi.

Roedd angen 326 er mwyn sicrhau mwyafrif.

Llywyddodd y blaid i ennill seddi yng Nghymru, gan gynnwys Dyffryn Clwyd, Gŵyr a Brycheiniog a Maesyfed.

Yn dilyn y canlyniadau cyhoeddodd Ed Miliband y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur a dyna hefyd oedd penderfyniad Nick Clegg ar ôl noson drychinebus i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Un sedd

Dim ond un sedd sydd gan y blaid honno yng Nghymru ar ôl yr etholiad, sef Ceredigion, ar ôl i Lafur gipio sedd Canol Caerdydd, a'r Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Maesyfed.

Dywedodd Mr Cameron fod ei blaid wedi cael "ymateb cadarnhaol iawn i'r ymgyrch gadarnhaol iawn".

"Rwyf am ddod â'n gwlad at ei gilydd," meddai, ein Teyrnas Unedig at ei gilydd, gan gynnwys drwy weithredu mor gyflym ag y gallwn y datganoli a addawyd gennym ac a gytunwyd gyda phleidiau eraill ar gyfer Cymru a'r Alban."

Image caption CANLYNIADAU CYMRU'N GYFLAWN

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband; "Mae hon wedi bod yn noson siomedig ac anodd iawn i'r Blaid Lafur.

"Nid ydym wedi gwneud y cynnydd yr oeddem wedi anelu ato yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban rydym wedi gweld ton o genedlaetholdeb yn llethu ein plaid."

Image caption Ed Miliband: 'noson siomedig ac anodd iawn'

Enillodd y Ceidwadwyr 11 sedd yng Nghymru - eu canlyniad gorau yma ers 1983.

25 sedd sydd gan y blaid Lafur yng Nghymru, un yn llai nag yn 2010. Ond yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru dyma "ail berfformiad gwaethaf y blaid Lafur yng Nghymru ers 1918 - a'r nifer isaf o seddi yng Nghymru ers 1987 (pan oedd dim ond 38 sedd mewn bodolaeth)".

Mae Plaid Cymru wedi dal eu gafael ar eu tair sedd, sef Arfon, Dwyfor Meirionydd - ble daeth Liz Saville Roberts yn AS benywaidd gyntaf erioed y blaid - a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Ond roedd Plaid Cymru 229 o bleidleisiau yn brin o gipio Ynys Môn oddi wrth Lafur.

Collodd Jenny Willott o'r Democratiaid Rhyddfrydol sedd Canol Caerdydd i Lafur, ond fe wnaeth Mark Williams gadw sedd Ceredigion, gyda'i fwyafrif wedi gostwng i 3,000 - roedd yn 8,000 yn 2010.

Image copyright PA
Image caption Llwyddodd Nick Clegg i ddal ei sedd yn Sheffield Hallam, ond cyfaddefodd bod gan ganlyniadau'r noson "oblygiadau difrifol" i'w blaid ac i'w arweinyddiaeth.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru y bu'n "noson echrydus i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru".

Ychwanegodd: "Wrth edrych ar ble mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod o ran seddi yn ddaearyddol, mae'n mynd i fod yn anodd iawn iawn ail-adeiladu plaid gydag aelodau mor anghymarus."

Image caption Y Ceidwadwr Craig Williams (chwith) yn dod yn AS ar ôl gwrthsefyll yr her gan Lafur

Enillodd yr SNP 56 allan o'r 59 sedd yn yr Alban.

Yn ôl gohebydd BBC Cymru Iolo ap Dafydd sydd yn yr Alban, mae "newidiadau syfrdanol yn digwydd ar hyd y wlad. Mae'n debyg mai stori'r noson ydi nid cymaint faint mae'r SNP yn ennill y seddau - ond maint y gogwydd syfrdanol - 39% ydi'r mwyaf".

Perfformiodd UKIP yn gryf mewn nifer o seddi yng Nghymru, gan ddod yn ail mewn nifer o etholaethau, gan gynnwys Blaenau Gwent, Islwyn, Merthyr Tudful a Chaerffili.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill y bu'n "noson hudolus" i UKIP, gan gadarnhau ein lle fel y drydedd blaid yng Nghymru"

Yn ôl Alun Michael - cyn brif weinidog Cymru - mae "cymaint o bobl cryf iawn ymysg yr aelodau Llafur sydd wedi colli ei seddau". Ymhlith y rhain mae arweinydd Llafur yr Alban, Jim Murphy ac ysgrifennydd tramor yr wrthblaid Douglas Alexander sydd wedi colli eu seddi i'r SNP, ac Ed Balls, llefarydd yr wrthblaid ar y Trysorlys, a gollodd ei sedd i'r Ceidwadwyr.

  • Dim ond 8 AS sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol - colled o 49.
  • Mae cyfres o aelodau amlwg o'r Democratiaid Rhyddfrydol - gan gynnwys Vince Cable, Danny Alexander, Charles Kennedy, David Laws, Ed Davey, Simon Hughes, Lynne Featherstone, Norman Baker a Jo Swinson - wedi colli eu seddi.
Image copyright EPA
Image caption Arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon: "Yr hyn rydym yn ei weld heno yw'r Alban yn pleidleisio i roi ei hymddiriedaeth yn yr SNP i wneud llais yr Alban yn glywadwy"

Bydd angen dau aelod newydd ym Mae Caerdydd gan fod dau AC presennol wedi ennill seddi yn San Steffan - Byron Davies yn cipio Gŵyr oddi ar Lafur ac Antoinette Sandbach yn ennill yn Eddisbury. Mae disgwyl i'r ddau aelod Ceidwadol ildio'u seddi yn y Cynulliad.

'Byth yr un fath'

Mae rhai o arbenigwyr gwleidyddol mwya' blaenllaw'r DU yn credu fod y term "Gwleidyddiaeth Pleidiol Prydain" wedi diflannu. Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru:

"Roedd hwn yn Etholiad Cyffredinol wedi'i gynnal yng nghysgod hir refferendwm annibyniaeth Yr Alban.

"Roedd sedd ar ôl sedd yn disgyn i ymchwydd yr SNP, oedd yn cyfateb a hyd yn oed yn cynyddu'r gogwydd welwyd yn yr is-etholiadau. Ar ôl 18 Medi 2014, fydd gwleidyddiaeth Yr Alban byth 'run fath.

"Ond yn Lloegr hefyd, mae'r refferendwm wedi cael effaith drawsffurfiol. Roedd sefyll dros Loegr wedi dod yn thema etholiadol i'r Ceidwadwyr ac UKIP.

"Y neges oddi tano'n awgrymu fod yr Albanwyr yn ceisio manteisio ar Loegr. Roedd gallu'r Ceidwadwyr i elwa o hyn trwy ganolbwyntio ar ddylanwad celwyddog yr SNP ar unrhyw lywodraeth Lafur yn y dyfodol wedi profi'n arf effeithiol iawn i Lynton Crosby.

"Oes modd pontio'r gagendor gwleidyddol sy' wedi agor o ganlyniad i'r ymatebion gwahanol hyn i annibyniaeth yn Yr Alban? Mae hyn hefyd yn anodd i gredu."