BBC Cymru Fyw

Amelia Jones: Llanc yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Published
image copyrightHeddlu Gwent
image captionBu farw Amelia Jones o waedu "difrifol" i'w hymennydd

Mae llanc yn ei arddegau wedi cyfadde' dweud celwydd wrth yr heddlu am lofrudd y babi pump wythnos oed, Amelia Jones.

Roedd y llanc wedi dweud ei fod yn y tŷ pan gafodd y ferch fach anafiadau angeuol yn ei chartre' ym Mhontnewydd.

Ond clywodd Llys Ynadon Caerdydd ei fod "dan bwysau" gan y llofrudd Mark Jones, 45, gafodd ei garcharu am oes yr wythnos ddiwetha' m lofruddio'r ferch fach.

Plediodd y llanc yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder, a chafodd ei gyfeirio gan y barnwr at banel troseddwyr ifanc.

Bu farw Amelia Jones yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ddeuddydd ar ôl ymosodiad arni gan Mark Jones ym Mhontnewydd ym mis Tachwedd 2012.

Straeon perthnasol

  • Dyn o Gwmbrân yn euog o ladd ei wyres bum wythnos oed