Yr etholiad ar-lein: Faint o Gymraeg?
- Cyhoeddwyd

Amser yma wythnos diwethaf, doedd neb wedi darogan canlyniad syfrdanol yr Etholiad Cyffredinol, nid ar y cyfryngau traddodiadol na'r cyfryngau cymdeithasol chwaith.
Ond mae un peth yn sicr, fe fydd y stori yn cael ei thrafod a thrafod dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ar y gwefannau, yn enwedig Twitter.
Mae'r nifer ohonom sy'n defnyddio Twitter ers yr Etholiad Cyffredinol diwetha' wedi cynyddu - ac mae hyn yn gallu dylanwadu, beth bynnag yw'r stori.
Esiampl o hyn efallai yw'r hashnod #Milifandom. Byddai'r hashnod yma, fel arfer, yn cael ei ddefnyddio gan ffans Justin Bieber neu One Direction, felly annisgwyl iawn oedd gweld merched yn eu harddegau yn trydar am Ed Miliband.
Faint o Gymraeg?
Felly beth bynnag yw'r stori mae'n dangos dylanwad cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn.
Ond faint ohonom sy' wedi bod yn sgwrsio am faterion yr etholiad ar Twitter yn y Gymraeg?
Rydw i'n eithaf tebyg mae'n siŵr i nifer o bobl arall sy'n siarad Cymraeg ac yn defnyddio Twitter.
Dwi'n trydar yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae'n dibynnu ar y pwnc a'r cyd-destun. Ond mae'n anodd iawn mesur yn union faint o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio ar y cyfrwng yma.
Gallwn fesur faint o weithiau ma' hashnod yn cael ei drydar. Er enghraifft, yr hashnod #etholiad2015 yw'r un mae'r BBC ac eraill wedi bod yn defnyddio, ond mae'n ddigon hawdd trydar yn Gymraeg heb ddefnyddio'r hashnod - felly fyddai'r negesuon hynny ddim o reidrwydd yn cael eu cofnodi wrth chwilio.
Ac wrth gwrs gallwn ddefnyddio hashnodau gwahanol neu dim hashnod o gwbl. Mae'n gymhleth.
Mae gwasanaeth Ffrwti yn monitro defnydd hashnodau mewn trydar Cymraeg - mae hashnodau gwleidyddol wedi bod yn boblogaidd dros gyfnod yr etholiad ac yn sicr ma' yna gryn dipyn o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio wrth drafod yr etholiad a dadleuon teledu'r arweinwyr.
Buddsoddi egni ac ymdrech
Yn ôl Owain Schiavone Prif Weithredwr Golwg360: ''Mae'n reit ddadlennol hefyd gweld bod hashnodau ynglŷn â rhai o'r etholaethau cystadleuol y gorllewin wedi bod yn boblogaidd yn y Gymraeg, #Llanelli, #Ceredigion ac #Arfon yn benodol.
" I raddau, mae'n debyg mai'r pleidiau eu hunain sydd wedi bod yn gyrru hyn, ond mae'n siŵr bod hyn yn adlewyrchu ffyrnigrwydd y frwydr yn yr etholaethau yma a'r ffaith bod y pleidiau'n buddsoddi tipyn o egni ac ymdrech yno. Mae hefyd yn dangos bod y pleidiau'n dod yn fwy savvy wrth ddefnyddio'r cyfrwng."
Fe fydd sylwebwyr ac ysgolheigion yn pori dros y ffigurau a'r ffeithiau ar ôl yr etholiad nawr, yn ceisio dadansoddi gwir ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar y canlyniad eleni.
Ond yn sicr o weld a darllen yr hyn sy'n cael ei ysgrifennu yn y Gymraeg, fe fydd cyfraniad Twitter a'r cyfryngau cymdeithasol yn elfen anhepgor o'r ddadl wleidyddol erbyn yr etholiad nesaf.