Gohirio cais cyfreithiol uned famolaeth Ysbyty Glan Clwyd
- Published
Mae cais cyfreithiol i herio cynlluniau i israddio gwasanaethau mamolaeth mewn ysbyty yn Sir Ddinbych wedi cael ei ohirio am y tro.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisiau israddio'r gwasanaeth mamolaeth, sydd ar hyn o bryd yn cael ei arwain gan feddygon arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ond mae ymgyrchwyr yn erbyn y penderfyniad wedi ceisio caniatâd am adolygiad barnwrol yn y Llys Sirol, yn Yr Wyddgrug.
Mae'r cais wedi ei ohirio am y tro oherwydd ymrwymiadau eraill y barnwr, Mrs Ustus Nicola Davies.
Nid oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer ailddechrau'r achos.
Roedd y rhan fwyaf o'r trafodaethau ddydd Gwener yn cynnwys faint yn fwy o dystiolaeth sydd angen ei gyflwyno, yn ogystal â thrafod dyddiadau ar gyfer gwrandawiadau yn y dyfodol.
Nid yw Mrs Ustus Davies wedi penderfynu eto a ydy hi am ganiatáu adolygiad barnwrol, ac mae eto i glywed cyflwyniadau gan y bwrdd iechyd.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bwriadu cyflwyno'r newidiadau i'r uned famolaeth ar 20 Mai, ond ni ellir eu rhoi ar waith nes bod y llys wedi dod i benderfyniad.