Digwyddiadau i nodi 70 mlynedd ers diwedd y rhyfel
- Published
image copyrightDenbighshire County Council
Mae cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws Cymru'r penwythnos hwn i nodi 70 mlynedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Cafodd clychau eu canu yng Nghaerdydd, Aberhonddu a Sir Benfro am 11:00 ddydd Sadwrn yn ystod ail ddiwrnod o ddathliadau.
Ddydd Gwener roedd dau funud o dawelwch wedi'i gynnal ar draws y wlad, a choelcerthi wedi'u cynnau, i nodi'r union amser y daeth yr Ail Ryfel Byd i ben.
Ar 8 Mai 1845 cafodd cannoedd o goelcerthi eu tanio i ddathlu diwedd y rhyfel.
Ymhlith y digwyddiadau'r penwythnos hwn mae arddangosfeydd arbennig a nifer o bartïon a dathliadau gyda themâu'r 1940au.
image copyrightSara Miles
Dydd Sadwrn
- Canu clychau am 11:00 yng Nghadeirlan Llandaf, Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd, Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, a Chadeirlan Aberhonddu
- Mae Clwb Gweithwyr Abertyswg yn cynnal noson o ddathlu yng Nghlwb y Lleng Brydeinig o 19:00
- Porth Tywyn - arddangosfa diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa
Dydd Sul
- Castell Caerdydd - picnic teuluol gyda thema 1940au ac arddangosfeydd milwrol (12:00 tan 16:00)
- Cyffordd Llandudno - gwasanaeth arbennig yn Eglwys St Michael o 10:30
- Blaenafon - parti ar thema'r 1940au gyda digwyddiadau i'r teulu (prynhawn)
- Yr Wyddgrug - digwyddiad cymunedol ar thema'r 1940au ar Sgwâr Daniel Owen
image copyrightSara Miles
image copyrightSara Miles
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Mai 2015