Cymro yn dychwelyd o Nepal wedi daeargryn
- Cyhoeddwyd

Cafodd Mike Hopkins ei groesawu yn ôl gan ei wraig nos Wener
Mae dyn oedd yn dringo Everest pan darodd daeargryn difrifol yn Nepal fis diwethaf wedi dychwelyd adref i Gaerdydd.
Roedd Mike Hopkins, 56 oed, wedi gobeithio bod y Cymro hynaf i gyrraedd copa mynydd uchaf y byd.
Roedd wedi cyrraedd y gwersyll cyntaf ar y mynydd, rhyw 23,000 o droedfeddi uwchben y môr, pan darodd y daeargryn laddodd miloedd o bobl.
Llwyddodd Mr Hopkins i oroesi'r daeargryn, fesurodd 6.7 ar raddfa Richter, a chysylltu gyda'i wraig yn fuan wedyn.
Bu farw dros 2,300 o bobl yn Nepal, gan gynnwys 17 gafodd eu lladd ar waelod Everest.
Roedd Mr Hopkins yn rhan o grŵp o naw o ddringwyr a thywyswyr ar ochr ogleddol y mynydd.
Ffynhonnell y llun, Sarah Hopkins
Roedd Mike Hopkins yn gobeithio bod y Cymro hynaf i ddringo Everest