Bachgen yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad gyda char

Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir Ddinbych.

Cafodd y bachgen ei daro gan gar ar yr A547 ger Meliden.

Digwyddodd y ddamwain ychydig wedi 14:00 brynhawn Sadwrn ar y ffordd rhwng Prestatyn a Rhuddlan.

Dywedodd yr heddlu bod y ffordd ar gau am gyfnod ond bellach wedi ail-agor.