BBC Cymru Fyw

Charlotte Church mewn rali yn erbyn toriadau

Published
image copyrightWales News Service

Mae'r gantores Charlotte Church wedi bod mewn rali yng Nghaerdydd, yn protestio yn erbyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Fe wnaeth Ms Church, sy'n fam i ddau o blant, annerch tua 200 o ymgyrchwyr ar Heol y Frenhines ddydd Sadwrn.

Daw'r ymddangosiad ar ôl i'r gantores feirniadu'r Ceidwadwyr yn hallt ar Twitter yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Eleni oedd perfformiad gorau'r blaid yng Nghymru ers 1983, gan ennill 11 o seddi.