Cyhuddo bachgen o gynnau tanau gwair yng Nghasnewydd
- Published
Mae bachgen 16 oed wedi'i gyhuddo o gynnau tanau yn fwriadol yn dilyn tanau gwair yng Nghasnewydd.
Mae'r bachgen wedi'i gyhuddo o gynnau tanau yn ardal Ringland ar 22 Ebrill a 30 Ebrill.
Dywedodd Heddlu Gwent y byddai'r bachgen yn ymddangos gerbron llys ieuenctid yn ddiweddarach yn y mis.