Dyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad bws yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad gyda bws yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 11:30 fore Sul.
Roedd Wood Street ar gau am gyfnod wrth i'r gwasanaethau brys drin y dyn.
Nid oes mwy o wybodaeth am gyflwr y dyn.