Crabb yn aros yn Swyddfa Cymru

Crabb
Image caption Stephen Crabb - yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru

Mae'r prif weinidog David Cameron wedi bod yn enwi rhagor o benodiadau i'r Cabinet newydd, a daeth cadarnhad y bydd Stephen Crabb yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru.

Cafodd Mr Crabb ei benodi i'r swydd ym mis Gorffennaf y llynedd fel olynydd i David Jones.

Ddydd Llun cyhoeddodd David Cameron ddyrchafiad i ddwy o weinidogion blaenllaw, gyda Amber Rudd yn cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, a Priti Patel fel gweinidog cyflogaeth.

Fe fydd yna rôl arbennig i Boris Johnson. Ni fydd o yn weinidog yn y cabinet, ond fe fydd yn mynychu cyfarfodydd "gwleidyddol" o'r cabinet.

Byddai hyn yn ôl Mr Cameron yn caniatáu i'r gwleidydd "allu canolbwyntio ar ei flwyddyn olaf fel Maer Llundain".

Ymhlith y penodiadau eraill:

  • Jeremy Hunt yn aros fel Ysgrifennydd Iechyd
  • Sajid Javid fydd yr Ysgrifennydd Busnes
  • John Whittingdale fydd Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
  • Robert Halfon fydd dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr, ac yn weinidog heb bortffolio
  • Bydd Iain Duncan Smith yn parhau fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau
Image copyright PA
Image caption Sajid Javid - Ysgrifennydd Busnes

Yn y cyfamser, mae arweinydd dros dro Llafur, Harriet Harman, wedi enwi aelodau newydd o gabinet yr wrthblaid.

Roedd newidiadau yn anorfod ar ôl i aelodau amlwg fethu a chael eu hail ethol i Dŷ'r Cyffredin.

Chris Leslie, fydd Canghellor yr wrthblaid yn lle Ed Balls, tra bod Hilary Benn yn olynu Douglas Alexander fel llefarydd yr wrthblaid ar faterion tramor.

Fe fydd Owen Smith, AS Pontypridd, yn parhau fel llefarydd Llafur ar Gymru.

Cafodd Chris Bryant, AS Rhondda, ei ddyrchafu i gabinet yr wrthblaid, ac fe fydd llefarydd y blaid ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Ddydd Llun cyhoeddodd Arglwydd Sugar ei bod o'n gadael y blaid Lafur.

Image copyright PA
Image caption Chris Leslie yw canghellor yr wrthblaid

Straeon perthnasol