Scarlets 16-6 Gleision
- Cyhoeddwyd

Mae'r Scarlets wedi rhoi hwb i'w gobeithion o orffen yn y chwech uchaf yn y Pro12, a chyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf, wedi buddugoliaeth dros y Gleision.
Symudodd y rhanbarth uwchben Connacht cyn gemau olaf y tymor y penwythnos nesaf.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy gicio Rhys Patchell yn gynnar yn y gêm, ond ciciodd Rhys Priestland 11 o bwyntiau yn ei gem gartref olaf i'r Scarlets cyn iddo ymuno a Chaerfaddon.
Y bachwr Ken Owens sgoriodd unig gais y gêm i sicrhau'r fuddugoliaeth ym Mharc y Scarlets.