Heddlu arfog wedi eu galw i Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i Wrecsam, lle roedd adroddiadau bod dynes wedi ei hanafu.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion wedi eu galw i Weale Court am tua 15:00 ddydd Sul, a bod dynes wedi ei chludo i'r ysbyty, ond nad oedden nhw'n ddifrifol.
Cafodd dyn ei arestio yn yr ardal am tua 16:30.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101.