Achos Caergybi: Cyfadde' dynladdiad

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw David Jones yn dilyn y digwyddiad ym mis Rhagfyr

Mae dyn o Drearddur ar Ynys Môn wedi gwadu llofruddio dyn yng Nghaergybi ym mis Rhagfyr y llynedd, ond wedi cyfadde' dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Roedd Pete Garrod, 24 oed, yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon i wynebu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafodd ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth David Jones, 46, yn nhafarn Blossoms yng Nghaergybi ddydd Gwener, 12 Rhagfyr 2014.

Plediodd yn ddieuog i lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad am nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd.

Mae'r erlyniad wedi derbyn y ple.

Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies nad oedd ganddi amheuaeth mai dyma'r llwybr cywir.

Fe wnaeth orchymyn ysbyty dros dro o dan Adran 38 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl sy'n golygu y bydd Garrod yn cael ei gadw mewn uned ddiogel fel bod modd ei asesu.

Bydd adroddiad yn cael ei baratoi, a bydd dedfrydu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 20 Gorffennaf.

Disgrifiodd y barnwr y farwolaeth fel "un drasig iawn, iawn".

Wrth siarad gyda theulu Mr Jones yn y llys dywedodd: "Mae'n hanfodol i'r llys gael cymaint o wybodaeth o'i flaen ag sy'n bosib cyn dedfrydu... gobeithio y gallwch dderbyn bod pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y mater yma'n cael ei drin yn y modd mwya' priodol."

Diolchodd i'r teulu am eu "hurddas a'u hamynedd".