Arolygwyr: Cyflwr dalfeydd gogledd Cymru 'wedi gwella'

  • Cyhoeddwyd
Clo carchar
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth arolygwyr ddarganfod bod y mwyafrif o ystafelloedd wedi eu rheoli'n dda

Mae cyflwr ystafelloedd yn nalfeydd yr heddlu ar draws gogledd Cymru "wedi gwella" ac yn "gadarnhaol yn gyffredinol", yn ôl adroddiad gan Arolygwyr Carchardai Ei Mawrhydi.

Fe wnaeth arolygwyr ddarganfod bod y mwyafrif o ystafelloedd wedi eu rheoli'n dda.

Ond mae pryder am gasgliad data "annigonol", yn cynnwys y defnydd o rym.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod "llawer mwy" o garcharorion wedi cael eu harchwilio tra'n noeth yn Llanelwy na mewn gorsafoedd eraill.

Fe wnaeth arolygwyr fynychu ystafelloedd mewn dalfeydd yng Nghaernarfon, Llanelwy, Wrecsam, Dolgellau a Chaergybi.

Fe wnaethon nhw ddarganfod bod y ddalfa yng ngorsaf Wrecsam - oedd wedi cael ei beirniadu fel esiampl "wael iawn", oedd yn "dywyll a budr" mewn arolwg blaenorol - wedi gwella, a bod cynlluniau ar gyfer ystafell newydd yn cael eu gweithredu.

Dywedodd yr awduron, Prif Archwilydd Carchardai Nick Hardwick ac Archwilydd Cwnstabliaid Ei Mawrhydi Dru Sharpling, bod yr adroddiad yn "cydnabod nifer o lwyddiannau gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu darpariaeth o ddalfeydd" a'u bod yn disgwyl i gynllun gael ei ddarparu ar gyfer yr adrannau "gymharol fychan" oedd angen gwelliannau.