BBC Cymru Fyw

Arweinydd Cyngor Caerdydd yn methu cael ei ailethol

Published
image captionFe wnaeth Mr Bale oroesi pleidlais diffyg hyder yn ei arweinyddiaeth ym mis Mawrth

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale wedi methu cael ei ailethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol grŵp Llafur y ddinas.

Roedd y bleidlais yn gyfartal rhwng Mr Bale a'i gydweithiwr Lynda Thorne.

Golygai hyn y bydd yn grŵp 45 aelod yn pleidleisio unwaith eto'r wythnos nesaf.

Fe wnaeth Mr Bale oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth ym mis Mawrth wedi iddo ei chael hi'n anodd pasio ei gyllideb.

Daw'r datblygiadau diweddaraf ar amser anodd i'r blaid Lafur yn y ddinas wedi iddo fethu ag ennill sedd ymylol Gogledd Caerdydd gan y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol.