Kevin Madge wedi'i ddisodli fel arweinydd Cyngor Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae Kevin Madge wedi cael ei ddisodli fel arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yng nghyfarfod grŵp Llafur, sy'n rheoli'r cyngor, yn Neuadd y Dre' Llanelli brynhawn Llun.
Jeff Edmunds sy'n cymryd yr awenau yn lle Mr Madge yn dilyn pleidlais gudd ymhlith y cynghorwyr Llafur yn ystod eu cyfarfod blynyddol cyffredinol.
Roedd Mr Madge wedi arwain y cyngor ers iddyn nhw ffurfio clymblaid gyda chynghorwyr annibynnol yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2012.
Mae cadeirydd y grŵp Llafur ar Gyngor Sir Gâr, y cynghorydd Jan Williams, wedi llongyfarch y cynghorydd Edmunds ar ei benodiad, gan ddweud:
"Credwn y bydd yn cynnig arweinyddiaeth gref ar adeg anodd i lywodraeth leol. Hoffwn hefyd longyfarch y cyn arweinydd, y cynghorydd Kevin Madge, am ei gyfraniad personol a chyhoeddus i Gyngor Sir Gaerfyrddin a'r Blaid Lafur."
Cefndir
'Nôl ym mis Chwefror 2014, pleidleisiodd y cyngor yn erbyn cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn swyddogion y cyngor, oedd yn cynnwys Mr Madge.
Ar y pryd roedd Mr Madge, ynghyd â'r cyn arweinydd Meryl Gravell, wedi cydnabod eu bod "wedi gwneud camgymeriadau" mewn cysylltiad â thaliadau pensiwn.
Daeth hyn wedi i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ionawr y flwyddyn honno gasglu bod taliadau i uwch swyddogion yr awdurdod yn "anghyfreithlon".
Ond ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Heddlu Sir Gaerloyw nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi'u cyflawni mewn cysylltiad â thaliadau i swyddogion cynghorau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Roedd yr heddlu wedi'u galw i ymchwilio i'r sefyllfa wedi i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ionawr gasglu bod taliadau i uwch-swyddogion y ddau awdurdod yn "anghyfreithlon".
Straeon perthnasol
- 6 Mai 2014
- 27 Chwefror 2014