Cyhoeddi enw bachgen fu farw mewn afon

Published
image captionFe gwympodd Joshua Hazelby-Fear i Afon Taf ym Mynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen saith oed fu farw ar ôl disgyn i Afon Taf ym Mynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful nos Sul.

Fe ddisgynnodd Joshua Hazelby-Fear, o Dreharris, i'r afon am tua 18:30, a chafodd ei dynnu allan gan y gwasanaethau brys.

Fe gafodd ei hedfan i'r ysbyty ond doedd dim modd ei achub.

Credir i'r bachgen fod yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Edwardsville, ble mae llythyrau wedi cael eu dosbarthu i rieni.

Mae teyrngedau wedi eu gadael ar lan yr afon ble ddisgynnodd i'r dŵr.

'Damwain drasig'

Dywedodd Kate Moran, Cynghorydd Treharris, sy'n cynnwys ward Mynwent y Crynwyr, bod plant yn chwarae'n aml ble digwyddodd y ddamwain.

"Mae'n ddamwain drasig. Rwy' wedi chwarae yno fy hunan fel plentyn, felly hefyd fy mrawd a nifer o bobl.

"Mae'n ergyd drasig i golli plentyn a bydd hyn yn cael effaith ar yr holl gymuned."

image captionMae teyrngedau wedi eu gadael ger y man ble ddisgynnodd y bachgen i'r afon

Straeon perthnasol