Menyw garafán: Galw ambiwlans
- Published
Bu'n rhaid galw ambiwlans i roi triniaeth i ddynes 71 oed ym mhentref Treuddyn, Sir y Fflint.
Roedd y cyngor yn bwriadu dymchwel y garafán ble oedd hi'n byw neu ei symud hi fore Mercher wedi anghydfod cynllunio hir
Mae Beryl Larkin wedi byw yn y pentre ger Yr Wyddgrug ers 19 mlynedd.
Dywedodd y cyngor ddydd Mercher nad oedden nhw'n siwr pryd y byddai'r camau nesa.
Rhwystrodd protestwyr swyddogion cyngor rhag cyrraedd y garafán am gyfnod fore Mercher a chafodd yr heddlu eu galw.
Wedyn cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw wedi i Mrs Larkin gael poenau yn ei brest.
Erbyn hyn, mae'r heddlu a swyddogion y cyngor wedi gadael y safle.
Ddim yn ddilys
Er ei bod wedi cyflwyno cais cynllunio, dywedodd swyddogion cynllunio nad oedd ei chais yn ddilys.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, Andrew Farrow, fod cais blaenorol wedi'i wrthod yn 2004 ac nad oedd unrhyw newid yn ei hamgylchiadau ers hynny.
Yn ôl y cyngor, fe gafodd Mrs Larkin wybod am eu bwriad ym mis Hydref 2013 ac oherwydd hynny dylai unrhyw her gyfreithiol i'r penderfyniad fod wedi'i derbyn o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw.
Ychwanegodd y cyngor eu bod wedi erlyn Mrs Larkin ddwywaith am beidio â dilyn rhybudd gorchymyn yn dyddio nôl i Ionawr 2001.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Ebrill 2015