Anafiadau i weithiwr yng Nghoed-y-Brenin
- Published
image copyrightArall
Mae gweithiwr yn yr ysbyty ar ôl cael sawl anaf yng Nghoed-y-Brenin yng Ngwynedd amser cinio.
Y rheswm yw bod coeden wedi cwympo.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ac ambiwlans awyr eu galw oherwydd y ddamwain i'r gogledd o Ddolgellau.
Yn y diwedd hofrennydd Sea King yr Awyrlu aeth â'r dyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
image copyrightArall
Y gred yw iddo dorri ei goes a'i fraich ac iddo efallai dorri ei asennau.