AS Llafur: ' Angen asesiad gonest'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Doughty MP
Disgrifiad o’r llun,
Stephen Doughty: 'Angen asesiad gonest'

Yn ôl aelod seneddol Llafur Cymreig mae angen i Lafur ymbellhau o'r gorffennol a rhoi asesiad gonest pam fod gymaint o etholwyr Cymru wedi cefnogi'r Ceidwadwyr yn yr etholiad.

Daw sylwadau Stephen Doughty, AS dros De Caerdydd a Phenarth wrth i fwrdd gweithredol y Blaid Lafur gwrdd i benderfynu ar amserlen ar gyfer y broses o ddewis olynydd i Ed Miliband.

Dywedodd Mr Doughty fod syniad ymhlith rhai o aelodau'r blaid, fod yna wahaniaeth mawr rhwng pleidleiswyr Cymru a phleidleiswyr Lloegr, sydd meddai, yn anghywir.

"Bydd nifer o bobl yng Nghymru ddim yn hoffi hyn, ond mae yna lawer mwy yng nghyffredin rhwng etholwyr Cymru ac etholwyr yn Lloegr, ond fyddai nifer ddim yn fodlon cyfaddef hynny, a dwi'n meddwl fod angen bod yn onest am y peth," meddai.

Dywedodd hefyd ei fod yn credu y dylai'r arweinydd nesaf ddod o blith yr aelodau seneddol gafodd eu hethol am y tro cyntaf yn 2010.

Byddai penderfyniad o'r fath yn rhoi diwedd ar obeithion ymgeiswyr posib fel Yvette Cooper ac Andy Burnham.

"Rwy'n credu fod angen wynebau newydd, ac nid dim ond ar gyfer yr arweinydd a'r dirprwy, ond hefyd y tîm yng nghabinet yr wrthblaid."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y blaid Lafur yn penderfynu ar amserlen ar gyfer y broses o ddod o hyd i olynydd i Mr Miliband