Cyhoeddi llythyrau preifat Tywysog Cymru
- Published
Mae llythyrau preifat, a gafodd eu hanfon gan Dywysog Cymru i'r llywodraeth Lafur oedd mewn grym 10 mlynedd yn ôl, wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn dadl gyfreithiol hir.
Dywedodd Clarence House mewn datganiad y byddai'r datblygiad "ond yn arwain at atal ei allu i fynegi pryderon a chynnig awgrymiadau sydd wedi'i gyflwyno iddo yn ystod teithiau a chyfarfodydd".
Ers degawd, mae 'na alw wedi bod am gyhoeddi'r llythyrau, a gafodd eu hanfon at nifer o adrannau'r llywodraeth pan oedd Tony Blair yn Brif Weinidog.
Mae rhai o'r llythyrau yn cyfeirio at faterion amaethyddol, gan gynnwys y diciáu mewn gwartheg, gyda'r Tywysog Charles yn annog y llywodraeth i gyflwyno "cynllun difa priodol ar gyfer moch daear" ble'r oedd angen hynny.
Mae hefyd yn cyfeirio at hen garchar Rhuthun mewn llythyr i Paul Murphy, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon ar y pryd, yn trafod ailddefnyddio hen safleoedd hanesyddol.
Mewn llythyr arall, mae'n dweud fod y lluoedd arfog yn gorfod gwneud gwaith heriol "heb yr adnoddau angenrheidiol".
Roedd y llywodraeth wedi cyflwyno gwaharddiad ar ryddhau'r llythyrau, ond dyfarnodd y Llys Apêl y llynedd fod hynny'n anghyfreithlon, a chafodd y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau gan y Goruchaf Lys ym mis Mawrth.
Mae'r 27 llythyr, a gafodd eu hanfon at saith adran wahanol o'r llywodraeth rhwng mis Medi 2004 ac Ebrill 2005, wedi cael eu cyhoeddi gyda rhannau wedi'u golygu.
Gellir gweld y llythyrau i gyd yma.