Lansio cynllun camddefnyddio cyffuriau yng Ngwent

  • Cyhoeddwyd
Ian Johnston
Disgrifiad o’r llun,
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston, sydd wedi cyhoeddi'r cynllun

Mae gwasanaeth newydd i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol wedi'i gyhoeddi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Fe fydd y cynllun yn cael ei weithredu gan Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, dan gytundeb tair blynedd gwerth £13.5m.

Mae'r cynllun yn honni i fod y cyntaf o'i fath yn yr ardal, gyda chefnogaeth yn cael ei gynnig i unigolion a chymunedau sydd wedi eu heffeithio gan gamddefnyddio.

"Mae angen i ni ddarganfod atebion lleol i'n problemau," meddai Lyn Webber o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent.

"Mae hyn yn bennod newydd cyffrous yn nhriniaeth troseddwyr cyffuriau ac alcohol yng Ngwent."

Ffynhonnell y llun, GDAS
Disgrifiad o’r llun,
Lyn Webber o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent gyda dau sy'n defnyddio'r gwasanaeth

Yn ogystal â chael ei ariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Bwrdd Cynllunio Gwent, holl awdurdodau lleol yr ardal a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Fe fydd elusennau Kaleidoscope a Drugaid Cymru yn helpu darparu rhaglenni cefnogaeth i'r camddefnyddwyr, a bydd cwmni diogelwch G4S hefyd yn helpu gyda'r gwasanaeth.