"Cofiwch eich lle o fewn y drefn!"

  • Cyhoeddwyd
Fydd y cefnogwyr yma ddim yn gwenu ar ôl clywed am gynlluniau diweddara Undeb Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Fydd y cefnogwyr yma ddim yn gwenu ar ôl clywed am gynlluniau diweddara Undeb Rygbi Cymru

Mae 'na lawer o drafod wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol rygbi Cymru ar lawr gwlad ac yn ein cymunedau. Nawr, fel yr eglura Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles, mae yna ergyd arall i freuddwydion rhai o glybiau Uwch Gynghrair Cymru:

"Cic arall "

"Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain". Mae'n ymddangos nad yw Undeb Rygbi Cymru am fabwysiadu geiriau Waldo fel arwyddair unrhyw bryd yn y dyfodol agos!

Mae'n debyg bod 'na gic arall i ddod i'r clybiau ar draul y rhanbarthau yn sgîl y cyhoeddiad bod y rhanbarthau am roi timau A i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon o'r tymor nesa mlaen, yn hytrach na chlybiau'r Uwch Gynghrair fel sydd wedi digwydd ers sefydlu'r gystadleuaeth chwe thymor yn ôl.

Efallai nad oes clwb o Gymru wedi ennill y gystadleuaeth ond fe lwyddodd Cross Keys i gyrraedd y ffeinal dair blynedd nol.

Mae Pontypridd wedi cyrraedd dwy rownd gynderfynol a rownd yr 8-ola' a Llanelli wedi cyrraedd rownd yr 8-ola' deirgwaith.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cross Keys yn dathlu ar ol ennill eu lle yn rownd derfynol Cwpan Prydain ag Iwerddon yn 2012

Ponty-prudd?

Sdim dwywaith mai Ponty sy'n mynd i ddiodde fwya'. Maen nhw wedi bod ben ac ysgwydd uwchben bob tîm arall yn y cyfnod diweddar gan orffen ar frig y Gynghrair y pum tymor dwetha a chyrraedd ffeinal Cwpan Cymru saith gwaith mewn degawd.

Mae'r her o wynebau timau o gefndir ac athroniaeth wahanol yn bwysig yn natblygiad y clwb.

Roeddwn i yn Heol Sardis llynedd ar gyfer y gêm yn erbyn Leinster A yn rownd gynderfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon, yn sylwebu ar y gêm gydag un o hen arwyr y clwb - y blaenasgellwr Martyn Williams.

Roedd y ddau ohonom ni'n gytûn roedd hi fel yr hen ddyddiau. Y lle dan ei sang gyda dros bum mil o gefnogwyr a gem wych o rygbi.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 'na awyrgylch wych yn Heol Sardis wrth i Bontypridd gael gêm gyfartal yn erbyn Leinster A'r llynedd

Fe orffennodd hi'n gyfartal 22-22 gyda Leinster yn sgori'r cais tyngedfennol ar ol deg munud o amser ychwanegol i fynd drwodd ar sail nifer y ceisiau gafodd eu sgorio. Fe aeth Leinster mlaen i gipio'r Cwpan am yr eildro'n olynol ond fe fyddai curo Leeds Carnegie'n sicr fod wedi bod o fewn gallu Ponty hefyd.

Ond nawr mae'n ymddangos na fydd dyddiau cofiadwy tebyg yn y dyfodol. Beth yw'r wobr felly am osod a chadw safon?

Y neges sy'n dod o dy'r Undeb yw "peidiwch bod yn uchelgeisiol, cofiwch eich lle o fewn y drefn!" Y ddadl yw bod angen creu llwybr i ddatblygu talent a phontio'r gagendor rhwng rygbi rhannol proffesiynol y clybiau a'r gêm broffesiynol ranbarthol.

Fe fydd nifer o'r chwaraewyr yn cael y profiad o chware ar y lefel hyn prun bynnag ond taw yn lifrau clwb nid y rhanbarth ac mae gan y rhanbarthau eisoes Gwpan LV i feithrin chwaraewyr.

'Aberthu breuddwydion'

Mae'n ymddangos bod breuddwydion y clybiau'n cael eu haberthu ar allor ymarferoldeb y rhanbarthau. A fydd unrhyw un o'r timau A ranbarthol yn denu 'run gefnogaeth?

A fydd parc yr Arfau neu'r Liberty yn morio canu a chreu'r fath awyrgylch roedd Shaun Holley ac Andy Robinson yn falch o weld chwaraewyr Bryste'n ei brofi? Sgersli biliff!

Yn amlwg mae'n rhaid i'r Undeb edrych at y dyfodol a'r gêm elite, ond rhaid hefyd cadw golwg ar rygbi a'i gysylltiadau cymunedol neu'r dyfyniad o eiddo Waldo bydd yn rhaid ei fabwysiadu fydd:

"I gofio am y pethau anghofiedig, Ar goll yn awr yn llwch yr oesoedd gynt"

Ffynhonnell y llun, NCR photography
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y cynlluniau newydd yn ergyd hefyd i Glyn Ebwy, un o'r clybiau sydd wedi cael adfywiad yn ddiweddar