Tri chynghorydd yn ymuno â Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Gwynedd

Mae tri o gynghorwyr Llais Gwynedd wedi ymuno â Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

Bellach, mae gan Blaid Cymru 38 cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, digon i sicrhau mwyafrif.

Mewn cyfarfod o'r grŵp Plaid Cymru, cyn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, cafodd yr aelodau newydd - y Cynghorwyr Seimon Glyn, Gweno Glyn a Gruffydd Williams o ardal Dwyfor, eu croesawu gan Blaid Cymru.

Mae'r Cynghorydd Seimon Glyn yn cynrychioli Ward Tudweiliog, y Cynghorydd Gweno Glyn yn cynrychioli Ward Botwnnog a'r Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynrychioli Ward Nefyn.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards: "Yn ein cyfarfod grŵp gwleidyddol cyn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd heddiw, croesawodd Cynghorwyr Plaid Cymru yn unfrydol y tri chynghorydd i ymuno â'r grŵp.

"Dyma gyfnod tyngedfennol i ni yng Nghymru wedi'r Etholiad Cyffredinol ac mae'n galw am undod."

"Rydym yn parhau i fod yn gadarnhaol yma yng Ngwynedd ac yn genedlaethol yng Nghymru.

"Ein nod yw gweithio fel Tîm Gwynedd i greu Gwynedd ffyniannus a chyffrous lle bydd cenhedlaeth y dyfodol yn gallu byw a gweithio."