£27m i wella ffyrdd a llwybrau cerdded a beicio
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ffyrdd prysur a chul yn cael eu gwella a llwybrau diogel i gerddwyr a beicwyr yn cael eu creu, yn dilyn buddsoddiad gwerth £27 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y gwelliannau yn cynnwys bron i £2m ar gyfer Ffordd Gyswllt Llangefni ar Ynys Môn a chynlluniau ar gyfer ffyrdd eraill, fydd yn costio tua £1.3m yr un yng Nghaerfyrddin, Ceredigion, ac Abertawe.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart y byddai'r arian yn cefnogi twf economaidd, gwella diogelwch, a hybu cerdded a beicio.
Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Llwybrau diogel
Fe fydd bron i £16 miliwn yn dod o Gronfa Trafnidiaeth Leol llywodraeth Cymru i gefnogi 35 o brosiectau trafnidiaeth gyhoeddus mewn 18 o wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Bydd bron i £4 miliwn yn cael ei wario ar geisio leihau nifer y damweiniau ffordd mewn 14 o awdurdodau lleol.
Mae ychydig dros £5 miliwn yn cael ei ddarparu i wella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion a chyfleusterau cymunedol eraill ar draws y wlad.
Fe fydd bron i £2m yn cael ei wario ar raglenni addysg a hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed fel plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a beicwyr modur.