Myfyrwyr yn dewis peidio derbyn Beiblau mewn neuaddau
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib na fydd Beiblau yn cael eu gadael mewn rhai neuaddau preswyl ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan gynigion newydd gan Undeb y Myfyrwyr.
Yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd myfyrwyr o blaid polisi newydd i ganiatáu trigolion i ddewis peidio derbyn testunau crefyddol yn eu hystafelloedd.
Yn y bleidlais, roedd 300 o fyfyrwyr yn cefnogi'r cynnig, ond pleidleisiodd 175 yn erbyn.
Mae Undeb y Myfyrwyr wedi dweud y byddant yn siarad gyda'r brifysgol am y posibilrwydd o newid y system.