Dedfrydu llanc am ymosod ar ddyn 77 oed
- Cyhoeddwyd

Mae llanc o Ynys Môn wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl ymosod ar ddyn 77 oed ar safle hen Ysbyty Seiciatryddol Gogledd Cymru yn Ninbych.
Clywodd y llys fod Timothy Cox, 19 oed, wedi rhoi dwrn yn wyneb Gwilym Pierce, oedd yn goruchwylio safle'r adeilad rhestredig.
Fe wnaeth Cox bledio'n euog i achosi niwed corfforol wedi'r digwyddiad ym mis Mehefin 2014.
Yn ogystal â dedfryd o naw mis wedi ei ohirio am ddwy flynedd, cafodd orchymyn i dalu iawndal o £750 i Mr Pierce.
Hefyd cafodd orchymyn yn ei atal rhag mynd o fewn pum milltir i'r ysbyty a hefyd rhag rhoi unrhyw wybodaeth am Mr Pierce ar wefannau cymdeithasol.
Yn ystod yr achos fe wnaeth y barnwr weld fideo ffon symudol oedd wedi ei gymryd o'r ymosodiad ar Mr Pierce.
Clywodd y llys bod y safle yn denu "pobl o bob math" a'i fod yn broblem i'r awdurdodau, a bod Mr Pierce yn aml yn cwrdd â phobl oedd yn tresbasu a'i fod yn gofyn iddynt adael.
Bydd rhaid i Cox wneud 225 awr o waith di-dâl yn y gymuned a ni fydd yn cael bod tu allan rhwng 20:00 a 06:00 am gyfnod o ddau fis.