T20: Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Surrey

Morgannwg Image copyright GCCC

Llwyddodd Morgannwg i drechu Surrey yn yr Oval, a hynny o 25 rhediad.

Morgannwg oedd yn batio gyntaf, gyda pherfformiadau cryf gan Jacques Rudolph (62) a Colin Ingram (91) yn rhoi'r ymwelwyr mewn sefyllfa gadarn.

Cafwyd cyfanswm o 240-3, y pedwerydd cyfanswm uchaf erioed mewn gêm T20 rhwng clybiau yn Lloegr.

Mi wnaeth Surrey drio'i gorau glas i ymateb, gyda Steven Davies a Zafar Ansari yn sgorio dros 50 o rediadau'r un.

Nid oedd hynny'n ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref, wrth iddyn nhw ddisgyn 25 rhediad yn fyr o'r nod.