Barod amdani!

  • Cyhoeddwyd
Fi yn y glaw dydd Iau, Mai 14. Mae'n anodd yfed coffi yn y glaw. Mae'n cwpan yn llenwi'n gynt nag wyt ti'n gallu yfed e! Leah Owen Griffiths (Trefnydd Cynorthwyol) yn rhyfeddu at fy newrder yn sefyll ar dracfwrdd metal mewn storom.
Disgrifiad o’r llun,
Fi yn y glaw ddydd Iau, Mai 14. Mae'n anodd yfed coffi yn y glaw. Mae'r cwpan yn llenwi'n gynt nag wyt ti'n gallu yfed e! Leah Owen Griffiths (Trefnydd Cynorthwyol) yn rhyfeddu at fy newrder yn sefyll ar dracfwrdd metal mewn storm

Mae Morys Gruffydd yn ddyn pwysig gyda phwysau'r byd ar ei ysgwyddau. Ef yw trefnydd Eisteddfod yr Urdd, a felly er mwyn cael syniad o'i gyfrifoldebau a'i amserlen ar drothwy'r Eisteddfod, mae wedi cytuno i rannu ei ddyddiadur a'i luniau gyda darllenwyr Cymru Fyw.

Nos Wener Mai 15 - Llwyddo i fynd adre i Aberystwyth am y penwythnos, ar ôl gweithio ar y Maes drwy'r wythnos. Cysgu am oddeutu 36 awr.

Bore Sul Mai 17 - Ffarwelio â'r teulu. Y teulu yn sychu eu dagrau (o lawenydd fy mod yn mynd).

Disgrifiad o’r llun,
Morys, yn chwarae ran hollbwysig yn y seremoni 'torri'r dywarchen gyntaf' yn gynharach yn y flwyddyn

Prynhawn Sul Mai 17 - Hyfforddiant stiwardiaid. Pawb sy'n stiwardio yn dod ynghyd yn y Neuadd Ddawns ar y Maes a chyflwyno sesiwn ynglŷn â chyfrifoldebau a disgwyliadau'r wythnos, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, rheolau tân ac ati.

Cymraeg i Oedolion Gwent yn rhoi gweithdy byr i stiwardiaid di-Gymraeg er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyfarch a chyfeirio pobl i'r tai bach yn Gymraeg. Gwely cynnar!

Disgrifiad o’r llun,
Cwrs atal tân stiwardiaid y Maes

Dydd Llun Mai 18 - Lot o gyfarfodydd heddi. Cyfarfod gyda Diane Walker, Prif Weithredwr Llancaiach Fawr. Cyfarfod gyda chynrychiolydd o gwmni bysus NAT sy'n darparu'r gwasanaeth Bysus Gwennol.

Cyfarfod gyda'r gymdeithas leol sy'n stiwardio'r meysydd parcio. Delio gydag ymholiadau sydd wedi codi gan rai o'r arlwywyr.

Cyfarfod gyda swyddog digwyddiadau'r Cyngor Sir. Ceisio datrys nam sydd wedi codi ar y system docynnau. Ceisio cael brechdan yn rhywle yn ystod y dydd.

Dal lan gyda'r tîm rheoli safle i drafod amryw faterion: Contractwyr, strwythurau ayyb. Trefnu llwybr diogel i gael y plant cynradd ar y Maes ddydd Mercher, ond eu cadw nhw'n ddigon pell o gerbydau a'r gwaith adeiladu.

Disgrifiad o’r llun,
Seddi'r Pafiliwn wedi eu parcio ar draws ein golygfa!

Dydd Mawrth Mai 19 - Dechrau paratoi'r logos noddwyr a'r sleids sydd yn mynd ar y sgrins yn y Pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cyfarfod gyda Sian Stephen (swyddog nawdd yr Urdd) a Reesy sy'n gweithio i ni gefn llwyfan er mwyn cytuno ar amserlen logos y noddwyr. Hynny yw, gwneud yn siŵr bod y logo cywir yn ymddangos yn y lle cywir!

Cyfarfod gyda'n swyddog Iechyd a Diogelwch i wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau a'r rheoliadau perthnasol. Cyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith am 18:00 ar y Maes.

Lot o bethe eraill sai'n cofio ar hyn o bryd!

Disgrifiad o’r llun,
Tinopolis yn ffilmio ar noson Cyflwyno'r Gadair a'r Goron yn Llancaiach Fawr nos Lun 11 Mai. Mae'r gadair eleni yn un drydan (hy mae plwg yn y cefn er mwyn goleuo'r LEDs)

Dydd Mercher Mai 20 - Ymarferion y sioe Gynradd yn dechrau yn y Pafiliwn. Cyfarfod â'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar y Maes, a gyrru injân dân ar hyd bob llwybr er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob un o'n strwythurau mewn argyfwng, a threfnu bod yr allanfeydd argyfwng yn eu lle. (Nid fi sy'n gyrru'r injan - yn anffodus.)

Trefnu bod rhywun yn gosod rhifau ar holl seddi'r Pafilwn - dros 1,400 ohonynt. Methu ffeindio rhywun i wneud, a gorfod gwneud fy hunan!

Stondinwyr yn dechrau cyrraedd y Maes i osod eu hunedau. Sicrhau bod pawb wedi cael y trydan/dŵr/goleuadau/byrddau/cadeiriau/TG cywir.

Ymarfer Oedfa bore Sul am 17:00 nos Fercher.

Disgrifiad o’r llun,
Wele Aled Sion (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod) yn ei gell

Dydd Iau Mai 21 - Y Cyngor Sir ar y Maes i gadarnhau eu bod yn hapus gyda'r trefniadau diogelwch, rheoliadau adeiladu, gwarchod y cyhoedd, glendid bwyd ac yn y blaen.

Os oes un o'r rhain yn methu, gallai hynny fod yn broblem. Staff yr Urdd yn hyderus bod y trefniadau sydd wedi bod ar y gweill ers misoedd lawer a'n profiad blaenorol yn mynd i olygu bod popeth yn iawn.

Ymarferion y sioe Gynradd yn parhau. Cyfarfod â'n contractwyr trafnidiaeth er mwyn cadarnhau bod ein cynllun rheoli trafnidiaeth yn ei le (cynllun a drafodwyd ac a ddatblygwyd dros gyfnod o ddwy flynedd gyda Heddlu Gwent a Chyngor Caerffili).

Dyma pryd bydd yr arwyddion traffig Eisteddfod yn dechrau cael eu gosod.

Dydd Gwener Mai 22 - Profi'r scanners a'r meddalwedd newydd - eto. Mae'r tocynnau eleni yn cael eu sganio gan iPads. (A chyn bod unrhyw un yn cael unrhyw syniadau, bydd yr iPads wedi eu clymu lawr yn ddiogel!)

Gosod ein 'Trwydded Eiddo' yn y Ganolfan Groeso. Rhaid arddangos hwn yn ôl y gyfraith er mwyn dangos bod hawl gyda ni i berfformio cerddoriaeth, cynnal digwyddiadau dawns, dangos fideos ac ati.

Cyfarfod â stiwardiaid y meysydd parcio er mwyn sicrhau eu bod yn hapus gyda phopeth, ac yn deall y Cynllun Rheoli Trafnidiaeth.

Disgrifiad o’r llun,
Dyma swyddfa staff adran yr Eisteddfod ar y Maes yn edrych yn daclus cyn i'r staff gyrraedd. Dewch nôl ar ddiwedd yr wythnos i weld sut siâp fydd arni!

Arlwywyr yn dechrau cyrraedd y Maes - coffi, noodles,wraps,Indian, pizza, pysgod a sglods, paninisayyb... mmmmmm dwi eisiau bwyd nawr!

Ymarfer Seremonïau yn y Pafiliwn, a chwmni teledu Avanti yn gosod eu hoffer technegol.

Delio gyda chant a mil o ymholiadau bach a mawr.

Dyma rai o'r prif bethe sy' 'mlaen 'da fi, a diolch byth bod gweddill staff yr adran a'r gwirfoddolwyr a Phwyllgor Gwaith lleol ar gael i rannu'r baich hefyd.

Y gwirionedd yw bod lot o'r pethe hyn yn mynd i newid, a rhaid bod yn barod i ymateb ac addasu yn ôl y galw. Bydd pethe annisgwyl yn codi hefyd, a phan bydd yr asynod yn cyrraedd y Maes (wir i chi) watshwch mas. O ie, a ry'n ni'n agor i'r cyhoedd rhywbryd hefyd…

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ffordd yn hir...