Elusen yn colli miloedd yn Llambed: Dedfryd ohiriedig
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe mae menyw 32 oed wedi cael dedfryd ohiriedig oherwydd twyll oedd yn golygu colled o filoedd o bunnau i elusen.
Fe gyfaddefodd Jude Mason, 32 oed o Lambed, i 17 o gyhuddiadau o ddwyn oedd yn ymwneud â £12,905.
Cafodd ddedfryd o 16 mis wedi ei gohirio am flwyddyn a gorchymyn goruchwylio am flwyddyn.
Bydd rhaid iddi ddilyn amodau cyrffyw am dri mis.
Clywodd y llys taw dim ond £9.16 oedd gan Ganolfan Deuluol Llambed yn lle £16,000.
Bu rhaid i'r elusen gau am fis. Dim ond un diwrnod yr wythnos y gall agor yn lle pedwar.
Ymddiriedaeth
Fe gollodd grantiau ac erbyn hyn mae'n gorfod dibynnu ar lety rhad ac am ddim Prifysgol y Drindod yn Llambed.
Dywedodd yr erlyniad fod Mason wedi dod yn weinyddwr yr elusen yn 2011 a bod cymaint o ymddiriedaeth ynddi fel bod rhai sieciau gwag, oedd wedi eu llofnodi, wedi eu rhoi iddi.
Dechreuodd hi sgrifennu Cyllid y Wlad ar fonion sieciau ond hi oedd yn eu derbyn.
Dywedodd yr amddiffyn ei bod hi'n arfer bod yn fam hapus gyda dau o blant.
Trafferthion ariannol
Ond daeth y berthynas â'i phartner i ben ac aeth i drafferthion ariannol.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas: "Roedd hwn yn dor-ymddiriedaeth ofnadwy.
"Nid arian masnachol oedd hwn ond arian yr oedd pobol wedi ei roi ar gyfer y ganolfan.
"Yr agwedd waethaf yw'r effaith ar y ganolfan a gollodd noddwyr ac arian.
"Mae rhai oedd yn helpu wedi teimlo cywilydd ac wedi teimlo eu bod wedi eu bradychu."