Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad difrifol ar Heol Caerfyrddin, Abertawe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr a beic modur tua 17:10 brynhawn Gwener.

Cafodd y cerddwr ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd tra bod gyrrwr y beic modur wedi'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Nid yw'r anafiadau i'r un o'r ddau yn bygwth eu bywyd.

Dywed Heddlu De Cymru bod y ffordd bellach wedi ailagor, ar ôl bod ar gau am rai oriau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth alw'r heddlu ar 101.