Cannoedd yn protestio yn erbyn toriadau
- Cyhoeddwyd
Y protestwyr ymhlith y siopwyr ar Stryd y Frenhines
Mae cannoedd o brotestwyr wedi gorymdeithio trwy ganol Caerdydd er mwyn gwrthwynebu toriadau i wasanaethau cyhoeddus.
Yn ôl yr heddlu roedd tua 500 o brotestwyr yno. Hawliodd y trefnwyr mai tua 1000 oedd y ffigwr cywir.
Fe drefnwyd yr orymdaith gan y mudiad Cynulliad Pobl Caerdydd.
Y brotest yng nghysgod cofgolofn Aneurin Bevan
Dywedodd un o'r trefnwyr Jamie Insole: "Mae 74% o swyddi newydd yng Nghymru yn cynnig cyflogau isel iawn - ac mae cymunedau Cymru yn wynebu toriadau mawr. Felly mae angen mudiad ar lawr gwlad i daro 'nol."
Roedd y gantores Charlotte Church ymhlith y gwrthdystwyr, ac fe ddanfonwyd neges o gefnogaeth i'r brotest gan yr actor Michael Sheen.
Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, ymhlith y protestwyr