Gwasanaethau tren newydd o Aber
- Cyhoeddwyd

Fe holwyd 6500 o deithwyr cyn caniatau'r gwasanaethau newydd
Mae gwasanaethau tren ychwanegol wedi dechrau rhwng Aberystwyth a'r Amwythig.
Bydd pedwar trên ychwanegol yn gadael, ac yn dychwelyd i, Aberystwyth rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn. Fe dydd yna ddau wasanaeth ychwanegol ar ddydd Sul.
Bydd gwasanaethau ychwanegol hefyd ar gyfer y lein rhwng Llanymddyfri ac Abertawe, a rhwng Llandrindod a'r Amwythig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu'r gwasanaethau newydd ar ôl cynnal arolwg ymhlith teithwyr.
Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart AC: "Bydd y gwasanaethau yma o fudd i deithwyr lleol, busnes, twristiaeth a myfyrwyr."