Arweinydd Cyngor Caerdydd yn wynebu pleidlais
- Published
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale yn wynebu brwydr wleidyddol nos Lun wrth iddo geisio cael ei ethol yn arweinydd y grŵp Llafur.
Wythnos yn ôl, roedd pleidlais gyfartal ar gyfer yr arweinyddiaeth rhwng Mr Bale a chynghorydd Grangetown Lynda Thorne.
Disgwylir i'r grŵp Llafur gwrdd unwaith eto nos Lun er mwyn cynnal pleidlais arall.
Mae Mr Bale wedi bod yn ffigwr dadleuol yn y brifddinas ers iddo gyflwyno cyllideb - a thoriadau - ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd.
Fe wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder ym mis Mawrth, ac er iddo ennill y bleidlais mae'r frwydr i'w ddisodli yn parhau.
Mae'r gwrthbleidiau a sawl aelod o'r blaid Lafur wedi dweud y dylai ymddiswyddo.
Dywedodd Mr Bale ei bod yn "benderfynol i sefyll yn gadarn" ac na fyddai yn "iselhau i'r lefel o wneud ymosodiadau personol".
Mae undeb UNSAIN, sydd yn cynrychioli gweithwyr y cyngor wedi dweud y dylid datrys y mater.
Dywedodd llefarydd: "Mae'n ymddangos fod y grŵp Llafur yn 'rhwygo ei gilydd yn ddarnau'."